Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 21 Mai a dydd Mercher 22 Mai 2013
Dydd Mawrth 21 Mai a dydd Mercher 22 Mai 2013
Toriad: Dydd Llun 27 Mai 2013 - Dydd Sul 2 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 4 Mehefin a dydd Mercher 5 Mehefin 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 14 Mai 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynnydd o ran rhoi "Ynni Cymru" ar waith (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Terfynol{30 munud}
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Adroddiad Guildford (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Y Diweddaraf ar Twf Swyddi Cymru - ar ôl blwyddyn (30 munud)
· Dadl: Cryfhau Democratiaeth Llywodraeth Leol (60 munud)
Dydd Mercher 15 Mai 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 21 Mai 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Diwygiad Lles (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Chwe Mis (45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle (30 munud)
Dydd Mercher 22 Mai 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl ar Araith y Frenhines (120 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi i Arbed (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 4 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Teithio Llesol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 5 Mehefin
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl Rheol Sefydlog 26.44 Cyfnod 3 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig:
Cynnig Rheol Sefydlog 26.47 Cyfnod 4 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud)